Waterloo Tea

Arcêd Wyndham

Mae Waterloo Tea, a sefydlwyd yn 2008, wedi datblygu’n sefydliad yng Nghaerdydd, gyda phum ystafell de ar draws Caerdydd a Phenarth, a chweched ar fin agor yn y ddinas. Agorodd Waterloo Tea yn Arcêd Wyndham yn 2014, yn gweini dros 60 math o de o India, Tsieina, Sri Lanka, Taiwan a Siapan, yn ogystal â choffi a bwydydd wedi’u paratoi’n ffres.

“Yn ogystal â’r amrywiaeth o de, ein bwyd sy’n ein gosod ni ar wahân. Rydym wirioneddol wedi buddsoddi yn y ceginau, yn y staff ac rydym yn ymfalchïo yn ein prydau. Caiff popeth ei baratoi’n ffres ar y safle ac rydyn ni wastad yn ehangu’r fwydlen ac yn arbrofi gyda phethau newydd na all pobl ddod o hyd iddynt unrhywle arall yng Nghaerdydd, “meddai’r perchennog, Kasim Ali,” Er enghraifft, rydym newydd ychwanegu shakshuka i’n bwydlen frecwast a rydym yn gweini prydau fegan ac amrwd ar ein bwydlen ginio, sy’n hollol flasus. Mae ein cwsmeriaid yn dod yn fwy gwybodus felly mae’n bwysig ein bod yn gweithio’n galed ac yn cymryd risgiau.”

Mae’r caffi yn dyblu fel siop, yn gwerthu offer te a choffi, gyda Waterloo yn darparu te i nifer o’r gwestai a’r brandiau mawr yng Nghaerdydd yn ogystal â chyrchfannau ledled Ewrop. Mae hefyd yn cynnal clybiau swper a digwyddiadau preifat gyda bwydlen bwrpasol a baratoir yn arbennig gan eu tîm mewnol.

Wedi’i leoli rhwng yr orsaf reilffordd, John Lewis a gyferbyn â Chanolfan Dewi Sant, mae Arcêd Wyndham yn un o’r arcedau cyntaf y mae ymwelwyr yn darganfod. “Mae i’r arcêd gymeriad go iawn, mae iddi enaid. Mae ymwelwyr o’r tu allan i Gaerdydd yn chwilio am rywbeth cofiadwy a dyna beth mae’r siopau annibynnol yn yr arcedau’n eu darparu.” meddai Kasim.