The Queer Emporium

“Mae caniatáu i fusnesau arloesol ymsefydlu a chymryd y naid honno yn rhan o ethos yr arcedau, a dyna pam maen nhw’n llawn o gymaint o wahanol fusnesau annibynnol blaengar."

Agorodd y Queer Emporium ei drysau gyntaf ym Mehefin 2021 fel siop wib ar gyfer Mis Pride.

Arweiniodd y llwyddiant a gafodd y busnes yn ystod y cyfnod hwnnw at denantiaeth barhaol yn y Morgan Quarter.

Dywedodd Yan White, sy’n rhedeg y siop, mai’r busnes yw’r cyntaf o’i fath yn y byd.

Mae’r Queer Emporium yn 18 o fusnesau gwahanol mewn un, sy’n cael eu rhedeg gan bobl cwiar, yn gwerthu llenyddiaeth cwiar, dillad, celf a chaffi lle gall pobl fwynhau coffi a the rhew.

Meddai: “Yn ystod y cyfnod clo, roeddwn yn gwneud stondinau marchnad gyda fy mhartner sydd hefyd yn rhedeg busnes cwiar ac fe wnaethom ni gwrdd â llwythi o wahanol werthwyr cwiar a gwneuthurwyr cwiar a sylweddolais fod yna bosibilrwydd am farchnad yn bendant.

“Datblygodd y syniad hwn fwy a mwy nes i ni sylweddoli y byddai’n bosibl llenwi siop – ond dyna beth ddigwyddodd yn y diwedd a dyma ni heddiw.

“Rwy’n credu yr arcedau yng Nghaerdydd wedi bod yn lleoliad perffaith ar gyfer busnes fel hwn. Rydyn ni’n awyddus i hyrwyddo busnesau annibynnol yn ein siop – fel y mae’r arcedau.

Ers i’r siop agor ei drysau’n gynharach eleni maen nhw eisoes wedi cydweithio â nifer o fusnesau yn yr arcedau, gan gynnwys Uncommon Ground a Bird & Blend.

Meddai Yan: “Mae’r Morgan Quarter wedi gosod baneri Pride trwy’r Arcêd Frenhinol ac Arcêd Morgan, sy’n gyrru llwyth o’n cwsmeriaid i mewn yno i gael hunluniau gyda nhw.

“Rwy’n credu mai un o’r pethau sy’n sefyll allan am Gaerdydd yw’r arcedau, oherwydd maen nhw mor unigryw. Dwi i erioed wedi bod mewn dinas gyda chymaint o wahanol hen arcedau ac mae yna awyrgylch mor anhygoel.

“Mae dyfodol yr Arcêd Frenhinol mor gyffrous ac mae’n dwyn ynghyd yr hen awyrgylch Fictoraidd a’r holl bethau newydd cŵl hyn sy’n digwydd. Mae’n gyffrous iawn.”