The Arcade Vaults

“Does dim unlle arall y gwn i amdano, yn sicr dim yng Nghaerdydd, sydd ag amrywiaeth eithaf mawr o gemau fideo yn mynd yn ôl mor bell â hyn, a gweithle cyfun i bobl gwrdd a chymdeithasu. Dyma hefyd yr unig arcêd mewn arcêd y gwn amdani yn y DU."

Mae llawer o’r gemau consol o ddyddiau plentyndod pobl fwy na thebyg yn hel llwch yn yr atig erbyn hyn.

Dyna pam mae Chris Munasinha, perchennog Arcade Vaults, wedi creu cymuned lle gall chwaraewyr gemau creadigol fwynhau taith yn ôl mewn amser gyda  gemau fideo retro. O’r Pac-Man gwreiddiol i glasuron yr oes hon megis Fortnite – gall pobl chwarae gemau mwyaf eiconig y pum degawd diwethaf.

Wedi’i lleoli yn Arcêd hanesyddol y Stryd Fawr, mae dau lawr i’r siop gemau fideo, un ar gyfer chwarae, a’r llall lle gall datblygwyr greu eu gemau eu hunain.

Meddai Chris: “Does dim unlle arall y gwn i amdano, yn sicr dim yng Nghaerdydd, sydd ag amrywiaeth eithaf mawr o gemau fideo yn mynd yn ôl mor bell â hyn, a gweithle cyfun i bobl gwrdd a chymdeithasu. Dyma hefyd yr unig arcêd mewn arcêd y gwn amdani yn y DU.

“Mae’r pandemig wedi bod yn anodd i ni fel y bu i bawb. Ychydig cyn y cyfnod clo, roeddem yn cymryd camau breision oherwydd dim ond ers ychydig dros flwyddyn yr oeddem wedi bod ar agor y pryd hynny. Ac roedd yn eithaf anodd i ni golli’r momentwm hwnnw i gyd.”

Gan fod pobl ar wahân yn gorfforol, penderfynodd Chris addasu’r busnes a darparu gwasanaethau ffrydio ar-lein i’w gwsmeriaid rheolaidd a ffyddlon gael dod at ei gilydd yn rhithiol.

Meddai: “Mae ein pwyslais ar y gymuned. Rydym yn gwmni budd cymunedol dielw. Ein nod bob amser yw tyfu’r gymuned gemau fideo ac nid dim ond fel lle i yfed a chwarae gemau, ond i gwrdd â phobl.

“Mae natur unigryw’r arcedau yng Nghaerdydd wir yn apelio at natur unigryw ein cymuned. Mae’n gweithio’n dda, mae’n gweddu i’n hethos a’n hestheteg retro.

“Y busnesau annibynnol, unigryw nad ydych chi’n eu gweld ar y stryd fawr yw’r allwedd i’r arcedau. Gall pobl grwydro’r arcedau hyn a dod o hyd i rywbeth hollol wahanol na fyddent yn dod o hyd iddo yn unman arall. ”