Spillers Records

Arcêd Morgan

Ers iddi gael ei hagor gan Henry Spiller yn 1894, mae cenedlaethau o drigolion Caerdydd sy’n caru cerddoriaeth wedi cael eu hudo gan y siop gerddoriaeth leol, Spillers. Wedi’i lleoli gyntaf yn Arcêd y Frenhines wreiddiol, roedd yn gwerthu recordiadau ar silindrau cwyr, ac mae enghreifftiau o’r rhain dal yn y siop heddiw, yn ogystal â gramoffonau ac offerynnau cerdd. “Mae’n rhaid fod pen busnes da wedi bod ganddo, a dealltwriaeth dda iawn o pryd y byddai poblogrwydd cerddoriaeth yn cynyddu,” meddai’r perchennog presennol, Ashli ​​Todd, “Mae sîn gerddoriaeth gyfoethog wedi bod yng Nghaerdydd erioed gyda llawer o fandiau lleol a cherddoriaeth Gymraeg.”

Arweiniodd boblogrwydd a galw am gerddoriaeth a recordiwyd ymlaen llaw i’r busnes symud yn y 1940au i’r lleoliad y mae’r rhan fwyaf o bobl yng Nghaerdydd yn ei chofio, yn Yr Aes. A dyma tad Ashli ​​yn prynu’r siop yn 1986, ar ôl bod yn reolwr ers nifer o flynyddoedd. Dechreuodd gyrfa Ashli ​​ei hun yn y siop y 1996, “Fe wnes i gamgymeriad yn gofyn am arian i fynd i’r sinema gyda fy ffrindiau a dywedodd fy nhad y gallwn naill ai lanhau’r ieir a oedd gennym mewn sied, neu ddod i weithio yn y siop am ychydig oriau, felly yn amlwg dewisais y siop!” meddai, “Gweithiais yma trwy gydol fy ngradd ac yna yn 2010, cefais y cyfle i’w phrynu. Nid oes dim byd yn well na llywio’r siop hon trwy gyfnod sydd dal i fod yn ansicr. Pe bai’n hawdd, ni fyddai’n hanner cymaint o hwyl.”

Symudodd y siop i’w lleoliad presennol yn Arcêd Morgan yn 2010. Wedi’i lleoli dros ddau lawr, erbyn hyn dyma’r siop recordiau hynaf yn y byd. Er bod lawrlwythiadau digidol, gwasanaethau ffrydio a manwerthwyr ar-lein, wedi dod yn fwy poblogaidd dros y blynyddoedd, mae Ashli ​​yn dweud bod yna rai sy’n gwerthfawrogi cerddoriaeth mewn ffurf gyffyrddadwy o hyd. “Roedd y ffrwydrad yn y byd finyl heb ei debyg,” meddai, “Rydym yn cwrdd â phobl o bob cwr o’r byd, o San Francisco, Efrog Newydd, Siapan. Mae pobl sy’n frwdfrydig am gerddoriaeth yn cael eu denu yma.”

Roedd creu Record Store Day dros ddegawd yn ôl hefyd wedi ail-gynnau’r brwdfrydedd dros siopau cerddoriaeth annibynnol, “Mae’n enfawr!” ebycha Ashli, “Eleni, cawsom yr anrhydedd anferth o groesawu Lauren Laverne yma i ddarlledu ei sioe fore Gwener ar gyfer BBC 6 Music yn fyw o’r siop. Dyma’r peth mwyaf swrreal sy di digwydd yn y siop yn fy amser i.”

“Yr arcedau yw cyfrinach orau Caerdydd. Os yw cwsmeriaid yn anturus ac yn cymryd amser i ymweld, fe ddawn nhw o hyd i rywbeth gwirioneddol gyffrous – mae yma amrywiaeth, pethau sy’n greadigol ac unigryw,” medd Ashli,” Mae’r bensaernïaeth yn hardd, nid yw’r adeiladau modern yn gallu cystadlu, ac i bobl sy’n hoffi cefnogi busnesau annibynnol lleol, dyma lle y cewch hyd iddyn nhw yn y ddinas.”