Sobeys
Vintage

Yr Arcêd Frenhinol

Pan oedd Sobeys Vintage Clothing yn ystyried agor ei siop gyntaf yng Nghymru yn 2016, nid oedd unrhyw amheuaeth ym mhle y dylai gael ei lleoli. “Mae Arcedau Caerdydd yn unigryw ac yn llawn siopau annibynnol, roedden ni’n gwybod bod rhaid i ni fod yma,” meddai Rheolwr y Siop, Hannah Kelly.

Darganfyddodd y perchennog, Andy Evans, yr union leoliad ar hap, pan sylwedd fod y siop ar gael i’w osod yng nghefndir ffotograff ffrind, “Doeddwn i ddim wedi bod yng Nghaerdydd ers blynyddoedd lawer, felly roedd yn rhaid i mi ddarganfod pa Arcêd ydoedd, roedd mor gyfarwydd,” eglurodd, “Yna, cofiais fy mod wedi mynd mewn i siopau fel Woodies a Robert Barkers, a phan es i ar ymweliad, roedd y teimlad a’r awyrgylch yr un fath.”

Yn arbenigo mewn hen eitemau, rhai wedi eu hadfywio a nifer wedi eu hysbrydoli gan oes a fu, mae cariad Sobeys tuag at ddillad yn amlwg. “Mae Sobeys ar gyfer pobl sy’n hoffi prynu dillad ffasiynol, mae’r rhan fwyaf ond ddim i gyd, digwydd bod yn hen neu wedi eu hadfywio ond gyda digon o ofal a sylw ni fydd hyn yn amlwg,” meddai Andy. O grysau paisley a ysbrydolwyd gan y 60au, i ffrogiau durgaree corduroy a hen Levi’s, maent yn arbenigo mewn dillad o ansawdd da sy’n parhau’n ffasiynol trwy gyflenwadau wythnosol. “Mae gennym gwsmeriaid gwirioneddol ffyddlon, mae rhai pobl yn dod mewn ddwy neu dair gwaith yr wythnos i weld pa eitemau newydd sydd gennym,” dywed Hannah. Mae Andy yn cytuno, gan ychwanegu, “Ry’n ni’n ceisio bod y math o siop ble, os ydych chi ar eich ail ymweliad, mae’n debyg y byddwch ar delerau enw cyntaf gyda’r bobl sy’n gweithio yna.”

Beth sy’n gwneud y Arcedau mor arbennig? Mae Hannah’n esbonio, “Ar gyfer y cwsmer, maent yn agos at ei gilydd ac yn hawdd eu harchwilio, gan eu gwneud yn hygyrch i bobl sy’n chwilio am rywbeth gwahanol. Mae’r siopau eraill hefyd yn gymuned gefnogol iawn. Os na all cwsmer ddod o hyd i rywbeth yma, rydym yn aml yn argymell eu bod yn mynd i’r Prince and Pauper neu’r Hobos anhygoel, yn Arcêd y Castell a’r Stryd Fawr, ac mae nhw’n anfon cwsmeriaid atom ni hefyd.”

“Mae Caerdydd yn ffodus o gael y berl hon yng nghanol y ddinas,” ychwanegodd Andy, “Ac mewn blynyddoedd i ddod, bydd yr arcedau’n dal i ffynnu, sdim ots sut mae’r ddinas yn newid (ac maent yn bob tro) a bydd pobl yn cofio pam y bu iddynt ddechrau ymwled â’r arcedau.”