Bron i 30 mlynedd yn ôl, agorodd Nailcraft Emporium ei ddrysau i’r brifddinas, gan gynnig triniaethau ewinedd, traed a harddwch moethus.
Ar ôl agor ar eu safle newydd yn gynharach eleni, dywedodd Catherine Hann, perchennog y salon, fod y busnes annibynnol yn defnyddio cynnyrch o’r ansawdd gorau yn unig.
Meddai: “Byddwch bob amser yn cael croeso cynnes gan fod ein tîm wir yn caru’r hyn maen nhw’n ei wneud. Wrth i chi gerdded ar hyd Arcêd Wyndham, byddwch yn sylwi ar y galon enfawr o flodau yn y ffenestr.
“Yna mae awyrgylch y salon yn dilyn y thema fenywaidd hon drwyddi draw. Blodau, seddi moethus, ystafell aros ar thema ystafell wisgo a channoedd o farneisiau gel i ddewis ohonynt.
“Mae Arcêd Wyndham yn arcêd mor brydferth ac mae Rod, rheolwr yr arcêd a’i dîm yn rhoi’r gofal gorau. Mae’r staff yn wych, mor gefnogol a chymwynasgar. ”
Gorfodwyd y busnes i gau am gyfnod hir oherwydd pandemig y Coronafeirws, ond cred Catherine fod pobl wedi mabwysiadu agwedd gefnogol at fusnesau lleol.
“Mae canol ein prifddinas mor werthfawr i’r Cymry yn benodol ac mae ein harcedau hardd yn dod â phobl i Gaerdydd o bob cwr o’r byd gyda’u busnesau annibynnol a chwyrci,” meddai Catherine.
“Mae’r frawdoliaeth rhwng pob un o’r busnesau yn fendigedig gan ein bod ni i gyd yn yr un sefyllfa yn rhedeg ein busnesau annibynnol. Byddwn i’n dweud ein bod ni i gyd yn hynod falch o’n harcedau.
“Mae’n golygu popeth i ni fod yn rhan o’r ymgyrch hon! Dewch i ymweld â ni, rydyn ni’n gwybod y byddwch chi’n dwlu ar bob un ohonom.”