Fel llawer o’r busnesau annibynnol a welir yn arcedau hanesyddol Caerdydd, nod Keep The Faith yw rhoi´r profiad gorau posibl i’w cwsmeriaid.
Dywedodd Shaun Gibbs, perchennog y parlwr barbwr a thatŵ arobryn, fod yr Arcêd Frenhinol yn lleoliad perffaith ar gyfer ei frand.
Er eu bod wedi ennill gwobrau lu am eu gwasanaethau barbwr a thatŵ, mae Shaun yn ei gwneud yn glir mai´r nod yw creu´r profiad gorau posib.
“Rwy’n credu mai’r hyn sy’n amlwg gyda ni i gyd, yw ein bod ni am sicrhau nad ydych chi’n cael gwasanaeth sylfaenol yn unig, rydych chi’n cael y gorau allwch chi am eich arian. Gallwn ni frolio am ennill gwobrau, ond yn y pen draw, rydyn ni´n deall mai´r unig wasanaeth sy´n bwysig yw´r gwasanaeth i chi.
“Rydyn ni wrth ein boddau yn yr arcedau oherwydd y naws annibynnol. Dydyn ni ddim yn fusnes mawr. Dydyn ni ddim yn cael ein hariannu na’n noddi, ac mae’r arcedau’n caniatáu i ni fynegi ein hunain o ran steil a chyd-fynd â phopeth o’n cwmpas.
Mae´r arcedau hefyd yn llefydd atyniadol i gleientiaid a chwsmeriaid gael cerdded trwyddynt. Mae arcedau Caerdydd wedi bod yn nodwedd hanesyddol ers amser maith ac rwy’n credu y byddan nhw´n dal i fod bob amser. ”
Agorodd Keep The Faith yn 2013 ac mae Sean yn obeithiol y bydd pobl yn cefnogi arcedau Caerdydd yn dilyn y flwyddyn anodd i fusnesau.
“Wrth gwrs, mae bod yn fusnes annibynnol yn golygu ein bod ni yn cael dyddiau gwell neu’i gilydd. Ond ar y dyddiau da, rydyn ni’n gwneud pobl yn hapus, a dyna sy´n bwysig. Dyna yw’r holl bwynt.”
“Mae gennym ni berthynas dda â phawb yma. Rydyn ni i gyd yn yr un cwch, rydyn ni i gyd yn fasnachwyr annibynnol sydd yno i gefnogi’n gilydd. Mae’r naws cymunedol yna yn rhan o beth sy’n gwneud arcedau Caerdydd yn arbennig iawn, iawn.