Mae busnesau annibynnol cynaliadwy yn creu cyffro mawr yng Nghaerdydd – ac nid yw Illustrate yn eithriad.
Wedi’i greu gan Toby Brunson a James Cats, mae Illustrate yn gasgliad o fusnesau byd-eang , a’i nod yw dod â chelf, dillad a chynaliadwyedd at ei gilydd.
Mae’r holl nwyddau yn figan ac maen nhw wedi ymrwymo i werthu dim ond cynnyrch cotwm 100%.
Y nod yw bod pob cynnyrch yn cael effaith gadarnhaol ar y blaned. Er enghraifft mae 10% o’r holl elw ar eu poteli dŵr yn mynd at Frank Water, elusen sydd wedi ymrwymo i ddarparu dŵr glân i gymunedau lle mae prinder ym mhob cwr o’r byd.
Yn y pen draw, cenhadaeth Illustrate yw ysbrydoli eraill i newid.
“Rydyn ni’n fusnes annibynnol cynaliadwy ac rydyn ni’n arbenigo mewn gwneud pethau fel dillad, printiau,” meddai Katherine Craig, Rheolwr Cyfryngau Cymdeithasol. “Ond yn y pen draw, rydyn ni’n gasgliad o fusnesau byd-eang, sy’n golygu bod ein hartistiaid yn dod o bob cwr o’r byd.”
“Mae’n ymwneud ag ansawdd. Mae pobl yn prynu ein dillad, ac maen nhw’n gwybod y byddan nhw’n para. ”
“Mae’r arcedau’n helpu i hyrwyddo safle Caerdydd fel dinas diwylliant – ac mae pensaernïaeth hardd Arcêd Morgan yn cydweddu’n berffaith ag estheteg y busnes.” meddai Katherine.
“Byddwn i’n dweud mai un pwynt gwerthu enfawr yng Nghaerdydd yw bod gennym yr arcedau hyn ac rwy’n credu ei bod yn gwneud iddi deimlo ychydig yn debycach i ddinas indie, arty.
“Y peth pennaf yw eich bod yn gwybod o ble mae eich dillad yn dod, pwy sydd wedi eu gwneud, mae hefyd yn ymwneud â chadw eich ôl troed carbon mor fach â phosib.”