Hotel
Indigo

Arcêd Dominions

Dyma arcêd ieuengaf Caerdydd, a adeiladwyd ym 1921 yn ystod y cyfnod Art Deco, ac agorwyd Hotel Indigo, sy’n rhan o frand IHG Hotel, yn 2017.

Treuliwyd pum mlynedd yn cynllunio’r gwesty, gyda gwaith adeiladu helaeth ac addurno i greu teimlad unigryw Cymreig y tu mewn a thu allan yr adeilad. “Rydyn ni’n caru ein arcêd,” meddai Tom Gaskell, Rheolwr Cyffredinol y gwesty, “Ni all fod llawer o arcedau yn y byd sydd â’u gwesty eu hunain!” Yn wir, mae’r gwesty wedi cael effaith barhaol ar olwg yr arcêd trwy gomisiynu murlun sy’n adlewyrchu hanes yr ardal, “ymchwiliais i arlunydd stryd lleol a darganfyddais waith gan Bradley o Illustrate Project,” esboniodd Tom, “Mae ganddi fand Celtaidd sy’n rhedeg ar hyd yr arcêd, gydag adeiladau eiconig, tirnodau a phobl enwog yn rhan ohono. Fy hoff bortread yw un Shirley Bassey.”

Gyda chymaint o westai yn y ddinas, mae Hotel Indigo yn credu mai ei hunaniaeth Gymreig sy’n ei gwneud yn unigryw. Mae’r gwesty wedi cadw rhai o’r nodweddion pensaernïol gwreiddiol, gyda cherfluniau o bennau llew trawiadol yn edrych i lawr ar y siopwyr isod, sy’n cyd-fynd â’r gwaith cerrig addurnol a welwch chi ar hyd y stryd. Y tu mewn, Melin Tregwynt a brandiau moethus Cymreig eraill sy’n dodrefnu’r gwesty, ochr yn ochr â chyflenwyr lleol, fel Pettigrew Tea Rooms sy’n darparu bara a phasteiod ffres bob dydd. “Mae gennym welyau cyffyrddus hefyd,” dywed Tom, “Ond rydym am i chi fynd allan ac archwilio’r ddinas hefyd!”

Trwy fod yn agos at y stryd fawr ac o fewn taith gerdded fer o’r Castell, Stadiwm y Principality ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru, mae archwilio yn hawdd. Mae tîm y Gwesty’n mwynhau darganfod eu cartref newydd ac yn dwlu darparu cyngor i’r rhai sy’n aros yn y gwesty. “Mae Arcêd Morgan yn wych ar gyfer siopa, mae ganddi rai siopau bwtîc gwych,” meddai Tom, “A Spillers Records, y siop recordiau hynaf yn y byd. Ni allwch ymweld â Chaerdydd heb fynd yno. ”