Gin & Juice

Arcêd y Castell

“Os ydych yn dod i’r Arcedau, rydych chi’n chwilio am rywbeth unigryw, rhywbeth gwahanol o ansawdd da,” meddai Steve Barker. A dylai ef wybod, ei deulu ef greodd y siop ddillad boblogaidd Barkers yng Nghaerdydd yn 1979, yng Nghanolfan Dewi Sant yn gyntaf cyn ymgartrefu yn Arcêd y Castell. Nawr, pedwar degawd yn ddiweddarach, mae Steve yn rhedeg y Barkers Tea House poblogaidd ar safle’r hen siop ddillad, yn ogystal â Barkers Tea House yn Arcêd y Stryd Fawr ac, yn fwyaf diweddar, Gin & Juice, yr unig fan am salad a choctel yn y ddinas.

Yn darparu suddion amrwd, saladau gyda chynhwysio arbennig o fuddiol ac iachus a bagelau blasus yn ystod y dydd, mae Gin & Juice yn trawsnewid yn y nos, gan weini dros 200 jin a choctel jin y tu mewn i’r clwb yfed chic, clud gyda seddi melfed. “Rydyn ni wedi ailwampio’r safle yn llwyr ond wedi cadw golwg a theimlad yr arcedau Fictoraidd, sydd mor unigryw,” meddai Steve, “mae ymwelwyr bob amser yn nodi’r bensaernïaeth ac maent yn dwlu ei fod o dan orchudd ac ar gyfer cerddwyr. Mae pobl yn mwynhau eistedd y tu allan a gallu gweld y Castell a mwynhau coffi neu goctel. Mae’n teimlo’n eithaf cosmopolitaidd.”

Dros y blynyddoedd, myfyria Steve, mae wedi gweld newid o bobl sydd am siopa yn unig, i eisiau popeth – o siopa a gweithgareddau hamdden i rywle i gael neud eu gwallt a’u colur cyn mynd allan yn y dref. “Yr hyn sy’n ein gosod ni ar wahân yw’r Castell, y dreftadaeth a hanes y ddinas,” esbonia Steve, “Gall pobl dreulio diwrnod yn y Castell neu Stadiwm y Principality, siopa mewn siopau annibynnol gwych, bwyta pryd a mwynhau coffi yma yn y prynhawn ac yna, yn y noson ddod yn ôl a mwynhau diod neu ddau.”

Gyda bwytai newydd a bariau coctel yn agor gerllaw, mae Steve yn sicr bod Gin & Juice, a’r busnesau cyfagos, yn rhan o adfywiad Ardal y Castell fel cyrchfan ar gyfer ymwelwyr â’r ddinas. “Mae’r arcedau’n datblygu’n brif gyrchfan gyda’r nos yn y ddinas,” meddai Steve, “Maen nhw bob amser wedi bod ar gyfer pobl sy’n chwilio am yr hyn sy’n newydd, rhywbeth mwy na’r hyn a ddarganfyddwch ar eich stryd fawr gyffredin.”