Fabulous Welshcakes

Un o fusnesau adnabyddus Caerdydd, mae Fabulous Welshcakes yn cynnig pice ar y maen wedi eu gwneud yn ffres, ffafrau priodas a gwasanaeth unigol i'r cwsmeriaid sy'n chwilio am rywbeth arbennig.

Ers tair blynedd bellach, mae Fabulous Welshcakes wedi bod yn pobi cacennau ffres, blasus bob dydd o’i siop yn Arcêd y Castell.

“Bob tro byddwch yn dod i mewn i’r siop, cewch yr un arogl arbennig,” meddai’r rheolwr Karen Jones.

Meddai Karen: “Mae ein siop yn unigryw. Dyma’r unig siop y gwn amdani sy’n arbenigo mewn pice ar y maen yn yr ardal. Mae yna gwpl o lefydd da iawn sy’n gwerthu pice – ond does dim siop arall yng nghanol y ddinas sy’n gwerthu dim ond pice ar y maen.

“Rydyn ni’n gofalu newid y blasau bob dydd. Rwy’n credu mai dyna sy’n dod â chwsmeriaid yn ôl i’r siop. Gallwch ddod i mewn a chael un poeth, yn ffres oddi ar y radell.

“Mae wedi bod yn flwyddyn anodd, rydyn ni’n fusnes eithaf ifanc gan mai dim ond ers tair blynedd rydyn ni yma. Roeddem yn cyrraedd y man yr oeddem am fod cyn y cyfnod clo cyntaf.

“Mae gennym ni gwsmeriaid ffyddlon, ac rydyn ni’n ehangu wrth iddyn nhw sôn wrth eraill a thrwy’r cyfryngau cymdeithasol.”

Un o’r pethau mwyaf cadarnhaol yn dilyn y pandemig yw bod agweddau siopa pobl yn newid, gyda mwy o bobl nag erioed yn siopa mewn busnesau lleol.

“Rwy’n credu mai’r un peth y mae’r cyfnod clo wedi’i ddysgu i bawb yw bod angen i ni gefnogi busnesau annibynnol, meddai Karen.


“Mae’n rhywbeth rydw i wedi ceisio ei wneud, ac mae mwy a mwy o gwsmeriaid yn dweud yn bendant y byddan nhw’n parhau i gefnogi busnesau lleol annibynnol.

“Mae gan yr arcêd dipyn o naws gymunedol, rhywbeth sy’n hollol unigryw i Gaerdydd. Pan fyddwch yn crwydro drwy’r arcedau, mae yna bethau bach annisgwyl na fyddech chi ddim yn gwybod amdanyn nhw efallai nes i chi fynd i weld drosoch eich hun.


“Byddwn ni’n aml yn gweld twristiaid yn dod heibio ac maen nhw’n mynd,‘ o, waw’ – maen nhw’n crwydro trwy’r arcedau heb wybod beth sy o’u blaenau – mae hynny’n rhan o’r hwyl. Rydyn ni’n hynod lwcus, does dim llawer o leoedd gydag arcedau anhygoel fel sydd gyda ni yng Nghaerdydd. ”