Pan agorodd Bird & Blend eu drysau yn 2019, eu nod oedd rhannu blasau te unigryw o bob rhan o’r byd gyda phobl Caerdydd.
Wedi’i lleoli yng nghanol Arcêd y Castell, mae’r perchnogion Krisi a Mike yn arwain y ffordd ym maes arloesi te yn y DU. Ar ôl cyfarfod yn y brifysgol, dechreuodd y pâr trwy bacio te yn eu hystafell wely cyn adeiladu’r brand o ddim byd.
“Fyddwn i ddim eisiau gweithio yn unrhyw le arall, dw i wrth fy modd gyda’r arcedau a’r cymunedau ynddyn nhw,” meddai Jess Butcher, cymysgydd te yn Bird & Blend.
“Dyw hi ddim yr un peth ag unrhyw siop de arall, rydym yn arbenigo mewn cyfuniadau te. Mae gennym eich te traddodiadol ond hefyd mae gennym rai ffynci fel jeli a hufen iâ. Mae yna sawl math gwahanol o de ond un o’r pethau rydyn ni’n arbenigo ynddo yw’r awyrgylch rydyn ni’n ei greu yn y siop. Gallwch chi ddod i mewn i flasu gwahanol fathau o de a dewis blas yr ydych chi wir yn ei hoffi.
Cafodd y busnes ei daro’n galed gan y pandemig – ond mae’n parhau i annog pobl i siopa’n lleol a chefnogi’r arcedau yng Nghaerdydd.
“Cafodd y pandemig effaith fawr arnom oherwydd ein bod yn adeiladu ein sylfaen cwsmeriaid ac wrth reswm roedd yn rhaid canslo pob un o’r digwyddiadau yr oeddem wedi’u cynllunio,” meddai Jess.
“Mae’n ymddangos bod pobl yn trio ailgydio yn eu harferion bob dydd sydd wedi bod o gymorth mawr a nawr rydyn ni’n adeiladu ein henw eto.”
Wedi’i lleoli yn agos i’r stryd fawr a thaith gerdded fer o’r Castell, Mae Bird & Blend yng nghanol cymuned annibynnol Caerdydd.
Meddai Jess: “Mae pawb yn groesawgar ac mae’r holl fusnesau yn gwneud eu gorau i gefnogi ei gilydd.
“Pan fyddwch chi’n siopa mewn busnes annibynnol, rydych chi’n bwysig i ni, ac rydym yn sylwi pan fyddwch chi’n treulio’ch amser a gwario’ch arian. Rydym hefyd yn adnabod llawer o’n cwsmeriaid, ac rydym yn hoffi adeiladu perthynas â nhw.
“Os ydych chi’n cael diwrnod gwael, dewch i’r arcêd a bydd y busnesau’n codi’ch calon. Mae’n fwy na siopa’n unig, mae’n ymwneud â’r profiad a rhoi hwb i chi.
“Mae’n bwysig iawn bod yn rhan o’r ymgyrch hon, mae angen i fwy o bobl fod yn ymwybodol o’r busnesau hyn a dysgu mwy amdanynt. Mae cymaint o siopau unigryw fel y bydd pobl yn mwynhau siopa yma. ”