Roedd ffrindiau Prifysgol, Michelle, Ian a Steve wastad yn frwdfrydig am gemau ac wedi gweld bwlch yn y farchnad ar gyfer rhywbeth gwahanol, felly fe agoron nhw Rules of Play nôl yn 2011. Gan fod y diddordeb mewn gemau bwrdd wedi tyfu, mae’r siop wedi hefyd, gan symud i’w adeilad presennol yn Arcêd y Castell o safle llai yn yr un lleoliad.
Mae gemau newydd ar gael yn wythnosol, ac mae’r siop yn ymfalchïo ar allu dod o hyd i’r rhai sydd ‘rhaid eu cael’ ar draws Ewrop a thu hwnt.
Ynghyd â’r gwaith bob dydd, mae’r tîm hefyd yn cynnal nosweithiau gemau wythnosol ar draws Caerdydd ac mae hefyd wedi cynnal tri Diwrnod Top Bwrdd Rhyngwladol, gyda mwy na 400 o bobl yn cymryd rhan yn yr un diwethaf – y digwyddiad mwyaf o’i fath yn y ddinas.
Meddai’r Rheolwr Dyfed Bowen, “Rydym yn ymfalchïo mewn darparu awyrgylch cyfeillgar a chroesawgar fel y gallwch chi gyrraedd yn teimlo’n gyfforddus ac yna gadael yn teimlo’n hapus! Dyna pam yr ydym yn hapus i gael ein cynnwys yn 10 Uchaf Dinas yr Arcêd.”