Ers iddi gael ei hagor gan Henry Spiller yn 1894, mae cenedlaethau o drigolion Caerdydd sy’n caru cerddoriaeth wedi cael eu hudo gan y siop gerddoriaeth leol, Spillers. Wedi’i lleoli gyntaf yn Arcêd y Frenhines wreiddiol, roedd yn gwerthu recordiadau ar silindrau cwyr, ac mae enghreifftiau o’r rhain dal yn y siop heddiw, yn ogystal â gramoffonau ac offerynnau cerdd.
Roedd creu Record Store Day dros ddegawd yn ôl hefyd wedi ail-gynnau’r brwdfrydedd dros siopau cerddoriaeth annibynnol, “Mae’n enfawr!” ebycha’r perchennog Ashli Todd, “Eleni, cawsom yr anrhydedd anferth o groesawu Lauren Laverne yma i ddarlledu ei sioe fore Gwener ar gyfer BBC 6 Music yn fyw o’r siop. Dyma’r peth mwyaf swrreal sy di digwydd yn y siop yn fy amser i.”
“Yn aml, ceir adroddiadau am ba mor anodd yw hi i fasnachu ar y stryd fawr ar hyn o bryd, ond mae’r arcedau yn llawn busnesau annibynnol sy’n wirioneddol angerddol am yr hyn maen nhw’n ei wneud. Mae’n wych bod yn y 10 Uchaf a gobeithio y bydd yr ymgyrch hon wedi ennyn diddordeb pobl i ddod i archwilio a gweld beth sydd gennym i’w gynnig.”