Jian Chen's FINE ART

Arcêd Heol y Dug

Yn gweithio o’i siop yn Arcêd Heol y Dug, mae’n anodd credu mai dim ond yn 2012 y dechreuodd Jian Chen baeintio. Ar ôl rhoi lluniau o’i gwaith ar-lein, fe ennillodd ddilyniant cwlt yn gyflym, gyda phobl yn heidio i brynu ei gwaith celf unigryw ac egnïol. Gwelodd botensial mewn gofod yn yr arcêd a gwyddai taw dyma’r lleoliad perffaith ar gyfer ei siop.

Mae Jian yn arbenigo mewn dyfrlliw, gyda ychydig bach o’i gwaith yn cael ei greu mewn olew ac acrylig, ac weithiau’n cwblhau hyd at 5 darn newydd mewn wythnos. Yn ogystal â’i gwaith celf gwreiddiol, sy’n cael eu harddangos yn ei oriel ar y llawr isaf, mae hi hefyd yn argraffu ei gwaith ar bopeth o grysau-t a bagiau tote i fatiau diodydd a chylchau allweddi.

Ar gyfer busnes newydd, fel un Jian, mae’r ymgyrch wedi helpu i ledaenu’r gair am ei chelf, “Mae ymgyrch Dinas yr Arcêd wedi amlygu fy ngwaith celf i gynulleidfa newydd ac ehangach,” meddai yn llawen, “rwy’n credu ei fod wedi helpu’r arcedau, gan ddangos yr holl bethau unigryw y gallant ddarganfod os yn archwilio ychydig.”