Sobeys Vintage

Yr Arcêd Frenhinol

Pan oedd Sobeys Vintage Clothing am agor ei siop gyntaf yng Nghymru yn 2016, nid oedd unrhyw gwestiwn ynglŷn â lle y dylai’r lleoliad fod. Roedd gan y perchennog Andy Evans atgofion melys o siopa yn yr arcedau ac ni allai feddwl am unrhyw leoliad gwell na’r Arcêd Frenhinol.

Yn arbenigo mewn hen eitemau, rhai wedi eu hadfywio a nifer wedi eu hysbrydoli gan oes a fu, mae cariad Sobeys tuag at ddillad yn amlwg. O grysau paisley a ysbrydolwyd gan y 60au, i ffrogiau durgaree corduroy a hen Levi’s, maent yn arbenigo mewn dillad o ansawdd da sy’n parhau’n ffasiynol trwy gyflenwadau wythnosol. Meddai Andy, “Rydyn ni’n ceisio bod y siop yna, os ydych chi ar eich ail ymweliad, mae’n debyg y byddwch chi ar delerau enw cyntaf gyda’r bobl sy’n gweithio yno.”

“Rydyn ni’n falch o fod yn rhan o’r 10 Uchaf,” meddai Rheolwr y Siop, Kristy Cromwell, “Mae’r ymgyrch wedi ein helpu i ymgysylltu â’n cwsmeriaid ac mae wedi bod yn wych clywed yr hyn maen nhw’n ei hoffi amdanom ni a’r hyn sy’n ein gwneud yn unigryw.”