The Pen and Paper

Yr Arcêd Frenhinol

Yn cyrraedd ei 23ain blwyddyn, mae’r Pen and Paper yn bwysig ar gyfer artistiaid a rhai sy’n hoff o ddeunyddiau ysgrifennu ledled y rhanbarth a thu hwnt – yn gwerthu popeth o bennau ysgrifennu, pensiliau, paent a chyflenwadau celf hyd at ddeunyddiau ysgrifennu fel anrhegion.

Gyda bron i 40,000 o linellau mewn stoc, mae’r siop yn cynnig detholiad llawer ehangach o eitemau nag y byddai ar gael ar y stryd fawr fel arfer. Ochr yn ochr â’r cyflenwadau celf a’r deunyddiau ysgrifennu, yn y siop dewch o hyd i’r dewis mwyaf o gardiau a wneir yng Nghymru, gan gynnwys rhai yn yr iaith Gymraeg, yng Nghaerdydd a detholiad o bosau jig-so.

“Rydyn ni’n falch iawn o fod yn 10 Uchaf Dinas yr Arcêd,” meddai Wendy Bottrill sy’n berchen ar y siop gyda’i gŵr Philip, “Mae ymwelwyr i’r ddinas yn hoffi archwilio ac maent bob amser yn chwilio am rywbeth unigryw a gwahanol, ond ddim bob tro’n gwybod pa siopau sydd yma. Rwy’n gobeithio y bydd yr ymgyrch hon yn dangos pa siopa gwych, annibynnol sydd ar gael yn ein arcedau.”