“Fe agoron ni ar Ddydd Gŵyl Dewi, diwrnod gwych i ddechrau busnes yng Nghymru,” meddai Ross Jones o’r enwog Jones the Barber. Dechreuodd Ross wneud gwaith barbwr yn 2013, gan agor ei siop gyntaf yn y Castle Emporium yn 2015, cyn symud ymlaen i Arcêd y Castell yn 2017. Maent yn arbenigo mewn technegau barbwr traddodiadol ac eilliadau lliain poeth, gyda’r opsiwn o droi i fynny neu bwcio.
Ochr yn ochr â’r gwasanaethau y byddech chi’n eu disgwyl, mae Ross wedi datblygu ei gynnyrch ei hun o’r enw “Jones and Sons”, gan gynnwys pomadau, pwti a chwyr i gadw’ch steil yn siarp rhwng ymweliadau. “Mae fy meibion yn cymryd rhan fawr iawn yn y cynhyrchion ac yn hoffi profi pethau,” gwena Ross, “Maent yn gwybod yn union beth maen nhw’n ei hoffi neu ddim yn ei hoffi, ac yn siŵr o ddweud wrthyf beth maent yn credu sy’n gweithio!”
“Mae ymgyrch Dinas yr Arcêd wedi bod yn wych wrth arddangos yr hyn sydd orau am Gaerdydd,” meddai Ross, “Pan yn ymweld â’r arcedau, rydych yn cwrdd â’r Gaerdydd go iawn, cymuned wych o bobl arbennig iawn. Mae’n wych cael ein cynnwys yn y 10 Uchaf “