Mae’r sgrialwr proffesiynol, seren MTV, rhedwr rasys dygnwch a’r entrepreneur Matthew Pritchard, sef perchennog y siop barbwr a tatŵau Sleep When You’re Dead (a elwir yn SWYD), wedi gwneud popeth.
Tra’n ffilmio Dirty Sanchez, bu Matthew yn teithio’r byd yn ymweld â pharlyrau tatŵ a siopau barbwr ar draws y byd a cafodd ysbrydoliaeth o’r llefydd hyn pan y gwireddodd ei freuddwyd a sefydlu SWYD.
“Rydw i’n falch iawn ac mae’n anrhydedd bod Sleep When You’re Dead wedi ei chynnwys yn 10 Uchaf Dinas yr Arcêd. Diolch i fy nhîm anhygoel a’r gwaith caled y maen nhw’n ei wneud,” meddai Pritchard, “Ers i’r ymgyrch ddechrau, rydym wedi profi rhai o’n penwythnosau prysuraf a hoffem ddiolch i FOR Cardiff am gychwyn hyn. Rydym wrth ein bodd yn yr arcedau ac mae ein dyfodol yn sicr yma wrth i ni barhau i dyfu ein busnes.”