Mae’r busnes teuluol, The Card Shop, Caerdydd, wedi gweld llawer o newidiadau yn Arcêd Dominions dros y blynyddoedd. Cymerodd Alison Manship a’i gŵr Chris drosodd oddi wrth rieni Alison a agorodd y siop yn 1980.
Yn ogystal â chardiau, mae’r siop hefyd yn gwerthu bagiau anrhegion, balwnau a dewis o gardiau a rhoddion Cymreig a gynlluniwyd gan artistiaid lleol. “Pan agorodd y siop, ychydig iawn o leoedd yng nghanol y ddinas oedd yn gwerthu cardiau o ansawdd,” meddai Chris, “Rydym yn ymfalchïo mewn darparu profiad personol ac yn gwerthu rhywbeth sy’n anarferol neu’n wahanol.”
“Mae pobl yn caru’r arcedau,” medd Chris, “Mae’n rhyfeddol i gael ein cynnwys yn y 10 Uchaf. Mae’r ymgyrch wedi bod yn wych er mwyn tynnu sylw at y busnesau sy’n bodoli ac rydym yn awyddus i gadw’r momentwm i fynd.”