Mae Waterloo Tea, a sefydlwyd yn 2008, wedi datblygu’n sefydliad yng Nghaerdydd, gyda phum ystafell de ar draws Caerdydd a Phenarth, a chweched ar fin agor yn y ddinas. Agorodd Waterloo Tea yn Arcêd Wyndham yn 2014, yn gweini dros 60 math o de o India, Tsieina, Sri Lanka, Taiwan a Siapan, yn ogystal â choffi a bwydydd wedi’u paratoi’n ffres.
Mae’r caffi yn dyblu fel siop, yn gwerthu offer te a choffi, gyda Waterloo yn darparu te i nifer o’r gwestai a’r brandiau mawr yng Nghaerdydd a ledled Ewrop. Yn chwilio am rywbeth gwahanol? Mae’r tîm hefyd yn cynnal clybiau swper a digwyddiadau preifat gyda bwydlen bwrpasol a baratoir yn arbennig.
Meddai Kasim Ali, perchennog Waterloo Tea Houses, “Rydym i gyd mor falch yn Waterloo Tea i nid yn unig gael ein cydnabod am yr hyn a wnawn, ond hefyd i fod yn rhan o adfywio a hyrwyddo natur unigryw ein dinas brydferth.”