Archwilio Yr Arcêd Frenhinol

Yn dyddio'n ôl i 1858, yr arcêd Frenhinol yw arcêd hynaf y ddinas. Hen dŷ slym ydoedd yn wreiddiol ac fe’i adfywiwyd gan The Cardiff Arcade Company i fod y ganolfan siopa ar raddfa lawn gyntaf yn y ddinas. Yn cychwyn ym mhen uchaf Heol Eglwys Fair, mae'r arcêd yn treiddio trwy gyrchfan siopa boblogaidd Yr Aes, ac mae’n rhan o Ardal Morgan. Yn gyn gymaint o ganolbwynt diwylliannol nawr ag yr oedd 150 o flynyddoedd yn ôl, mae gan yr arcêd amrywiaeth o siopau coffi, caffis a siopau bwydydd tramor amgen, fel Uncommon Ground Coffee, Ffresh a Wally’s, ochr yn ochr â nifer o siopau dillad annibynnol hynod, siopau gemwaith a siopau ffotograffiaeth, gan gynnwys Cardiff Antique Centre a Willows Jewellery and Gifts.

Mae Cardiau Rhodd FOR Cardiff ar gael nawr!

Gellir gwario Cerdyn Rhodd FOR Cardiff mewn dros 80 o fusnesau ar draws Caerdydd gan gynnwys llawer yn yr arcedau ac mae ar gael mewn gwerthoedd o £5 i £500. O ddyddiau siopa i giniawau stêc, mae'r cerdyn rhodd yn cwmpasu pob math o brofiadau yng Nghaerdydd ac yn galluogi pobl leol ac ymwelwyr i archwilio elfennau newydd o'r ddinas wych hon, Dinas yr Arcêd.

CLICIWCH YMA