Archwilio Marchnad Caerdydd

Marchnad dan do Fictoraidd yng nghanol y ddinas yw Marchnad Caerdydd (a elwir hefyd yn Farchnad Ganolog). O dan yr un to, fe welwch bopeth o fara ffres a sbeisys i recordiau a dillad ‘vintage.’ Fel hwb i annibynwyr, mae'n gartref i fusnesau hir sefydlog fel Ashton Fishmongers a The Market Deli sydd wedi bod yn masnachu yn y farchnad ers dros 100 mlynedd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Marchnad Caerdydd wedi dod yn boblogaidd ar gyfer bwyd stryd gyda busnesau fel Ffwrnes Pizza, Pierogi a Tukka Tuk.

54 siop unigryw