Archwilio Arcêd y Castell

Y drydedd arcêd sy'n ffurfio Ardal y Castell yw arcêd y Castell. Wedi’i lleoli ar ochr arall y stryd fawr gan wynebu arcedau y Stryd Fawr a Heol y Dug, adeiladwyd arcêd y Castell rhwng 1882 a 1889. Mae'r arcêd yn arbennig o enwog am ei balconïau sy'n rhannu'r siopau ar draws dau lawr, a dau fwa mawr sy’n adlewyrchu ei gilydd naill ochr yr arcêd - gellir gweld hyn yn berffaith o'r ail lawr. Mae arcêd y Castell yn gartref i gymysgedd eclectig o siopau annibynnol, gan gynnwys caffi Ffrengig Madame Fromage, popty Portiwgeaidd Nata and Co, bar Gin and Juice, Café Minuet a chwaer Barker Coffee sef Barkers Tea Rooms. Mae yna hefyd ddetholiad o siopau gwisg ffansi, ffasiwn annibynnol a gemwaith annibynnol uchel ael, yn ogystal â detholiad o siopau trin gwallt.

Mae Cardiau Rhodd FOR Cardiff ar gael nawr!

Gellir gwario Cerdyn Rhodd FOR Cardiff mewn dros 80 o fusnesau ar draws Caerdydd gan gynnwys llawer yn yr arcedau ac mae ar gael mewn gwerthoedd o £5 i £500. O ddyddiau siopa i giniawau stêc, mae'r cerdyn rhodd yn cwmpasu pob math o brofiadau yng Nghaerdydd ac yn galluogi pobl leol ac ymwelwyr i archwilio elfennau newydd o'r ddinas wych hon, Dinas yr Arcêd.

CLICIWCH YMA