Archwilio Arcêd Morgan

Fe'i hadeiladwyd yn 1896 a gellir dadlau mai arcêd Morgan yw'r un sydd wedi ei chadw orau. Wedi ei lleoli ar Heol Eglwys Fair ac yn treiddio i'r Aes, mae'r arcêd yn cynnwys bwticau moethus, siopau a bwytai ac mae'n ffurfio Ardal Morgan ochr yn ochr a’r Arcêd Frenhinol. Gyda chymysgedd o frandiau enwog ac annibynnol, mae gan arcêd Morgan lawer i’w gynnig, gan gynnwys siopau adnabyddus, Route One, Pretty Green, Fred Perry, a Dr Martens. Mae cymysgedd o siopau gemwaith, siopau dillad annibynnol, caffis, siopau recordiau a brandiau “ffordd o fyw” yn llenwi gweddill yr arcêd, ac mae enghreifftiau yn cynnwys caffi Crumbs, Slunks Hair Club, siop gofal croen Neal’s Yard, siop ddillad uchel ael Sebry R a siop recordiau hynaf y byd sef Spillers Records.

Mae Cardiau Rhodd FOR Cardiff ar gael nawr!

Gellir gwario Cerdyn Rhodd FOR Cardiff mewn dros 80 o fusnesau ar draws Caerdydd gan gynnwys llawer yn yr arcedau ac mae ar gael mewn gwerthoedd o £5 i £500. O ddyddiau siopa i giniawau stêc, mae'r cerdyn rhodd yn cwmpasu pob math o brofiadau yng Nghaerdydd ac yn galluogi pobl leol ac ymwelwyr i archwilio elfennau newydd o'r ddinas wych hon, Dinas yr Arcêd.

CLICIWCH YMA