Archwilio
Arcêd Dominions
Wedi ei hadeiladu yn 1921, Dominions yw'r mwyaf newydd. Wedi'i lleoli ar Stryd y Frenhines, dyma'r lleiaf o'r arcedau, ond nid y lleiaf trawiadol. Mae pensaernïaeth foethus wedi'i chyfuno â ffitiadau cyfoes yn golygu taw dyma’r lle am lun hardd. Mae'r arcêd yn gartref i stecdy enwog Marco Pierre White a Indigo Hotel, sef cyrchfan ar gyfer gwychder pwrpasol a bwyta cain. Mae'r ystafelloedd yn adlewyrchu treftadaeth Gymreig fywiog canol dinas Caerdydd ac mae'r bwyd yn ofnadwy o flasus yn ôl pob sôn. Os yw'r haul yn disgleirio, gallwch fynd i deras to y gwesty ac arsylwi’r holl bethau sydd gan y ddinas i'w chynnig gyda diod braf.

Mae Cardiau Rhodd FOR Cardiff ar gael nawr!
Gellir gwario Cerdyn Rhodd FOR Cardiff mewn dros 80 o fusnesau ar draws Caerdydd gan gynnwys llawer yn yr arcedau ac mae ar gael mewn gwerthoedd o £5 i £500. O ddyddiau siopa i giniawau stêc, mae'r cerdyn rhodd yn cwmpasu pob math o brofiadau yng Nghaerdydd ac yn galluogi pobl leol ac ymwelwyr i archwilio elfennau newydd o'r ddinas wych hon, Dinas yr Arcêd.
CLICIWCH YMA