Archwilio Dinas Yr Arcêd

Mae drysfa o siopau annibynnol o fewn waliau arcedau Caerdydd. Gyda dros 100 o fwytai a manwerthwyr lleol yno, mae'r arcedau'n darparu profiad siopa cwbl unigryw. Daw 150 o flynyddoedd o hanes manwerthu Cymreig at ei gilydd dan do pensaernïaeth Fictoraidd ac Edwardaidd clasurol. Wedi'u moderneiddio i adlewyrchu bywiogrwydd bywyd y ddinas, mae'r busnesau annibynnol hyn wrth galon Caerdydd, Dinas yr Arcêd.

Mae Cardiau Rhodd FOR Cardiff ar gael nawr!

Gellir gwario Cerdyn Rhodd FOR Cardiff mewn dros 80 o fusnesau ar draws Caerdydd gan gynnwys llawer yn yr arcedau ac mae ar gael mewn gwerthoedd o £5 i £500. O ddyddiau siopa i giniawau stêc, mae'r cerdyn rhodd yn cwmpasu pob math o brofiadau yng Nghaerdydd ac yn galluogi pobl leol ac ymwelwyr i archwilio elfennau newydd o'r ddinas wych hon, Dinas yr Arcêd.

CLICIWCH YMA

CYSYLLTU

Os ydych yn fusnes annibynol a hoffai fod yn rhan o’r ymgyrch, cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.

EBOST