Arddangosfa Gelf The Arcades Project

Arddangosfa Gelf The Arcades Project

Dewch draw i arddangosfa gelf arbennig wedi’i churadu gan Rory Duckhouse, yn seiliedig ar lyfr Walter Benjamin, The Arcades Project.

Gwnaeth The Arcades Project ragweld esblygiad canol ein dinasoedd modern, a chaiff y themâu hyn eu hystyried yn yr arddangosfa.

Mae’r arddangosfa’n cynnwys gwaith gan Helen Clarke, Geraint Ross Evans, Ryan Moule, Tina Willgren a Dawn Woolley. Mae yna destun a gomisiynwyd gan James Cocks, a bydd Lydia Meehan yn artist preswyl ar y safle.

Bu’r rhaglen yn bosib drwy ymgyrch Kickstarter gyda chefnogaeth hael gan National Business Sales, Greazy Vegan a Green Vegan.

Mae wedi’i lleoli yn 8a Arcêd Heol y Dug, drws nesaf i Garlands Coffee a gyferbyn â Polarity Coffee.

Mae’r arddangosfa ar agor o 12-5pm ac mae am ddim.

Dysgwch fwy yn www.thearcadesprojectcardiff.com

Mwy o ddigwyddiadau a chynigion

Mae Cardiau Rhodd FOR Cardiff ar gael nawr!

Gellir eu defnyddio mewn dros 50 o fusnesau annibynnol ar draws Canol Dinas Caerdydd, felly mae cerdyn rhodd FOR Cardiff yn anrheg perffaith i bawb sy’n caru coffi, i bobl sydd â steil ac yn hoffi ffasiwn ail law, cefnogwr chwaraeon a’r rhai sy’n chwilio am ddiwylliant a bwyd da.

CLICIWCH YMA