Ymgyrchoedd Dungeons and Dragons Untro yn The Arcade Vaults

Ymgyrchoedd Dungeons and Dragons Untro yn The Arcade Vaults

Dewch i roi cynnig ar Dungeons and Dragons, gêm chwarae rôl (RPG) fwyaf poblogaidd y byd.

Mae yna bedair ymgyrch y gall dechreuwyr (neu unrhyw un sy’n chwilio am ffics RPG untro) roi cynnig arnynt dros ddwy sesiwn.

Mae’r ymgyrchoedd untro’n cynnwys: Dragonbane Temple, Demon Doggos and Barbarian Boyfriends, A Wanted Man a Hungover in an Asylum. Dim ond yn addas i bobl 16 oed neu hŷn.

Y ffi fynediad yw £10 y pen fesul gêm. Bydd pob gêm yn cynnwys hyd at 6 pherson, gyda phedair gêm ym mhob sesiwn.

Sesiwn gyntaf: 12pm-4pm

Ail sesiwn: 5pm-9pm

Gallwch brynu tocynnau yn http://buytickets.at/thearcadevaults/311581/r/coa

Mwy o ddigwyddiadau a chynigion

Mae Cardiau Rhodd FOR Cardiff ar gael nawr!

Gellir eu defnyddio mewn dros 50 o fusnesau annibynnol ar draws Canol Dinas Caerdydd, felly mae cerdyn rhodd FOR Cardiff yn anrheg perffaith i bawb sy’n caru coffi, i bobl sydd â steil ac yn hoffi ffasiwn ail law, cefnogwr chwaraeon a’r rhai sy’n chwilio am ddiwylliant a bwyd da.

CLICIWCH YMA