Dewch i siopa yn yr arcedau a chlywed cerddoriaeth fyw gan yr artistiaid canlynol:
13:00 – 13:30 Lowri Evans
13.50 – 14.20 Gracie Richards
14:40 – 15:10 Matthew Frederick
15:30 – 16:00 The Gentle Good
16:20 – 16:50 Sera
17:10 – 17:40 Ffion Evans
Mae’r gantores-gyfansoddwraig ddwyieithog Lowri Evans yn meddu ar lais sy’n cyfleu pŵer emosiynol aruthrol drwy ganeuon sydd wedi’u hysbrydoli gan genres amrywiol, gan gynnwys Americana, gwerin, gwlad a blŵs, gyda’r cyfan yn cydblethu’n bert drwy ei dawn gerddorol reddfol a’i hangerdd ddofn.
Mae Grace Richards yn dod o Faesteg a dysgodd i chwarae’r gitâr, y piano, y feiolin a’r iwcalili pan yn ifanc. Mae’r gantores-gyfansoddwraig ddwyieithog yn perfformio drwy gyfrwng canu gwerin, pop ac indi ac yn defnyddio celf a cherddi i greu cerddoriaeth sy’n cyfleu straeon ac emosiynau.
Mae Matthew Frederick yn cyfuno’i gariad cynnar at ganwr-gyfansoddwyr clasurol â dylanwadau mwy diweddar i greu cymysgedd unigryw o bop, indi gwerin a blŵs, gyda chwa o Gymrucana a’r clasurol cyfoes. Ac yntau wedi perfformio fel prif act yn y DU, UDA ac Ewrop ac yn wyneb i Climbing Trees, ffefrynnau BBC Introducing, mae’r cerddor o Gwm Rhondda wedi rhyddhau pedwar albwm, dau EP ac 11 sengl ers ei début yn 2011.
The Gentle Good yw enw llwyfan Gareth Bonello, cyfansoddwr ac aml-offerynnwr o Gaerdydd. Wedi’i ysbrydoli gan gerddoriaeth draddodiadol a llên gwerin Cymru ynghyd ag amrywiaeth o ffynonellau o bob cwr o’r byd, mae Gareth yn creu cerddoriaeth werin sy’n atseinio drwy’r oesoedd, yn Gymraeg a Saesneg.
Mae Sera yn un o Artistiaid Horizons 2019 y BBC. Mae’n byw yn Ynys Môn, ond yn galw Caerdydd yn ail gartref. Gyda’i thwist ffres ar gerddoriaeth Americana, mae hi’n ysgrifennu a pherfformio yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch ddod o hyd iddi ar y cyfryngau cymdeithasol @serasongs.
Mae Ffion-Evans yn gantores-gyfansoddwraig o Landre yn Aberystwyth. Fel unawdwr, mae naws pop gwerin i’w cherddoriaeth. Gyda’i gitâr acwstig, sielo a phiano, daw ei hysbrydoliaeth o fyd natur, ac mae’n defnyddio’r haul, y môr a stormydd i greu ei sain.