Diwrnod Ffotograffiaeth Am Ddim yn Camera Centre UK

Diwrnod Ffotograffiaeth Am Ddim yn Camera Centre UK

Dewch draw i sioe ffotograffiaeth unigryw wedi’i chynnal gan Camera Centre UK.

Byddant yn ymuno â’r gorau o siopau dillad Cwr Morgan mewn sesiwn lluniau ffasiwn yng ngofod Pretty Green, felly dewch â’ch offer camera eich hun neu rhowch gynnig ar yr offer Sony Alpha fydd ar gael ar y dydd.

Bydd tîm Sony Alpha wrth law gyda dewis eang o gamerâu, lensys a mwy, yn ogystal â’u gwybodaeth arbenigol, fel y gallwch gymryd rhan a dysgu mwy am eu system ddi-ddrych anhygoel.

Bydd y ffotograffydd portreadau proffesiynol Casey Gutteridge (www.cpgphotos.com) hefyd yma i dynnu portreadau teuluol/unigol am ddim!

Os ydych chi newydd brynu gwisg newydd o’r arcêd, galwch draw i gael llun proffesiynol wedi’i dynnu yn barod i Instagram.

Ar ben hyn oll, bydd y cynigion arbennig hyn ar gael yn y siop drwy’r dydd:

Cynigion arbennig ar gamerâu a lensys Sony Alpha!

10% oddi ar bopeth arall!

Printiau hanner pris!

Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac ar agor i bawb.

Mwy o ddigwyddiadau a chynigion

Mae Cardiau Rhodd FOR Cardiff ar gael nawr!

Gellir eu defnyddio mewn dros 50 o fusnesau annibynnol ar draws Canol Dinas Caerdydd, felly mae cerdyn rhodd FOR Cardiff yn anrheg perffaith i bawb sy’n caru coffi, i bobl sydd â steil ac yn hoffi ffasiwn ail law, cefnogwr chwaraeon a’r rhai sy’n chwilio am ddiwylliant a bwyd da.

CLICIWCH YMA