Dewch i sioe ffasiwn arbennig yn arddangos casgliad hetiau Hydref/Gaeaf 2020 Andrea’s Closet, gydag arddangosfa a choctel i ddilyn yn Polarity Coffee yn Arcêd Heol y Dug.
Bydd y sioe yn dechrau am 1pm yn Arcêd Heol y Dug gyda mynediad am ddim i bawb a chyfle i roi i’r elusen Dreams & Wishes.
Mae lle i 150 o westeion yn yr arddangosfa a’r digwyddiad coctels dilynol, drwy wahoddiad yn unig, a bydd yn dechrau am 2pm.
I gael rhagor o wybodaeth gallwch ddilyn Andrea’s Closet ar Instagram: @Andreas_Closet_AC neu ewch i’w gwefan yn www.andreacloset.com